Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Bae Caerdydd / Cardiff Bay

Caerdydd / Cardiff  CF99 1NA

 

 

8 Rhagfyr 2011

 

 

Annwyl Syr / Madam

 

 

Ymgynghoriad ar y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru)

 

Fel rhan o’i ystyriaethau Cyfnod 1, mae Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw am dystiolaeth ar egwyddorion cyffredinol y Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru).

 

Beth yw Bil?

 

O dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gall y Cynulliad Cenedlaethol wneud deddfau mewn meysydd lle mae ganddo’r pwerau deddfwriaethol i wneud hynny.

 

Pan gaiff cynnig ar gyfer deddf newydd ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, caiff ei alw’n ‘Fil’.

 

Defnyddir proses pedwar cyfnod ar gyfer ystyried Bil. Yng Nghyfnod 1, caiff egwyddorion cyffredinol y Bil eu hystyried gan bwyllgor (sy’n cynnwys casglu tystiolaeth ysgrifenedig a llafar gan y rhieni sydd â diddordeb a chan randdeiliaid), a rhaid i’r Cynulliad gytuno ar yr egwyddorion hynny.

 

Pan gaiff Bil ei basio ac ar ôl iddo gael Cydsyniad Brenhinol, mae’n dod yn ‘Ddeddf Cynulliad’.

 

Beth mae’r Bil hwn yn ceisio’i gyflawni?

 

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Bil yn nodi:

 

Mae’r Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) arfaethedig yn gweithredu cynigion Llywodraeth Cymru i symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud a gorfodi is-ddeddfau awdurdodau lleol. Mae’r Bil yn cyflwyno gweithdrefn amgen i awdurdodau lleol ei dilyn wrth wneud nifer o is-ddeddfau. Ar gyfer yr is-ddeddfau hyn, mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ymgynghori’n lleol cyn gwneud is-ddeddf ac yn cael gwared ar y gofyniad i Weinidogion Cymru ei chadarnhau. Mae’r Bil arfaethedig hefyd yn cynnig dull amgen opsiynol, a mwy effeithlon, o orfodi drwy hysbysiadau cosb benodedig. Yn olaf, mae’r Bil hefyd yn diwygio ac yn cydgrynhoi’r darpariaethau cyfredol ar is-ddeddfau yn adrannau 235 i 238 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cam yw hyn i gyfeiriad datblygu Llyfr Statud i Gymru ac mae’n sicrhau bod y darpariaethau deddfwriaethol allweddol ynghylch gwneud, cadarnhau a gorfodi is-ddeddfau yng Nghymru ar gael mewn un deddfiad.”

 

Beth yw rôl y pwyllgor?

 

Rôl y pwyllgor yw ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil ac adrodd arnynt. Wrth wneud hynny, mae’r Pwyllgor wedi cytuno i weithio o fewn y fframwaith a ganlyn:

 

Ystyried:

 

i)       yr angen i’r Bil ddarparu’r amcanion penodol a ganlyn: 

·                 galluogi awdurdodau lleol i gymryd perchnogaeth dros ddeddfau lleol;

·                 darparu dull mwy uniongyrchol o orfodi drwy ddefnyddio hysbysiadau cosb benodedig;

ii)   a yw’r Bil yn cyflawni'r amcanion a nodwyd ynddo;

iii)    y darpariaethau allweddol sydd wedi’u nodi yn y Bil ac a ydynt yn briodol ar gyfer cyflawni’r amcanion; 

iv)    rhwystrau posibl i weithredu’r darpariaethau allweddol ac a yw’r Bil yn rhoi ystyriaeth iddynt;

v)      a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi o’r Bil;

vi)    barn rhanddeiliaid a fydd yn gorfod gweithio o dan y trefniadau newydd.

 

Sut allwch chi helpu – cwestiynau’r ymgynghoriad

 

Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w gweld ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol yn: http://www.senedd.cynulliadcymru.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=2413

 

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’w gynorthwyo yn ei waith o graffu ar y Bil. Yn arbennig, byddai’n croesawu eich atebion i’r cwestiynau a restrir yn Atodiad 1.

 

Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i Pwyllgor.CCLll@cymru.gov.uk.

 

Neu, fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Leanne Hatcher, Dirprwy Glerc y Pwyllgor, Y Swyddfa Ddeddfwriaeth, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 2 Chwefror 2012. Efallai na fydd yn bosibl ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

 

Mae rhagor o wybodaeth am y broses ddeddfwriaethol i’w chael yn:

http://www.assemblywales.org/cy/bus-home/bus-legislation/bus-legislation-guidance.htm

 

Wrth baratoi eich tystiolaeth, dylech ystyried y pwyntiau a ganlyn:

 

§   dylai eich ymateb fynd i’r afael â’r materion sydd gerbron y Pwyllgor;

§   bydd y Cynulliad Cenedlaethol fel arfer yn cyhoeddi ymatebion i ymgynghoriad cyhoeddus ar ei wefan, ac efallai y bydd Aelodau’r Cynulliad yn eu gweld a’u trafod mewn cyfarfod pwyllgor hefyd. Os nad ydych am i ni gyhoeddi eich ymateb neu’ch enw , mae’n bwysig eich bod yn nodi hyn yn glir wrth gyflwyno eich tystiolaeth;

§   nodwch a ydych yn ymateb ar ran sefydliad neu fel unigolyn; a

§   nodwch a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor.

 

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg.

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Bethan Davies, Clerc y Pwyllgor, ar 029 2089 8120, neu â Leanne Hatcher, y Dirprwy Glerc, ar 029 2089 8147.

 

Yn gywir

 




 

 

Ann Jones AC
Cadeirydd y Pwyllgor

Atodiad 1

Cwestiynau’r Ymgynghoriad

 

1.     A oes angen Bil i ddiwygio ac atgyfnerthu deddfwriaeth ynglŷn â gwneud is-ddeddfau au gorfodi? Esboniwch eich ateb ir cwestiwn hwn.

 

2.     A ydych yn credu y bydd y Bil ‘yn sicrhaubod is-ddeddfau awdurdodau lleol yn dod yn ddull rheoleiddio mwy effeithiol’ (fel y dywedir ym mharagraff 3.16 y Memorandwm Esboniadol)?

 

3.     A yw’r adrannau yn y Bil yn briodol o ran diwygio’r deddfau presennol sy’n ymwneud ag is-ddeddfau? Os nad ydynt, pa newidiadau sydd angen eu gwneud i’r Bil?

 

4.     (a) Sut y bydd y Bil yn newid y dull presennol o lunio is-ddeddfau a pha effaith a gaiff newidiadau o’r fath, os o gwbl?

(b) Yn arbennig, a yw’r Bil yn cyflawni ei nod o geisio symleiddio’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau (yn bennaf drwy ddileu’r gofyniad bod Gweinidogion Cymru yn cadarnhau is-ddeddfau newydd penodol)?

 

5.     Beth yw’r rhwystrau posibl i weithredu darpariaethau’r Bil (os o gwbl) ac a yw’r Bil yn eu hystyried?

 

6.     Beth yw eich barn am y gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau (adrannau 6 i 9)?

 

7.     A yw darpariaethau’r ymgynghoriad sydd wedi’u hamlinellu yn y Bil yn foddhaol o ran sicrhau bod gwaith ymgynghori priodol yn digwydd cyn dirymu, diwygio, gwneud neu gadarnhau is-ddeddfau (adrannau 4 i 8)?

 

7.     (a) A ydych yn fodlon â’r darpariaethau gorfodi yn y Bil (adrannau 10 i 15)?  

(b) Yn arbennig, a oes gennych unrhyw sylwadau ar y cynigion atafaelu yn adran 11, ac ar y cosbau a gynigir yn adrannau 10(2) a 14(3)?

 

Goblygiadau Ariannol

 

8.     Beth yw goblygiadau ariannol y Bil, os o gwbl? Wrth ateb y cwestiwn hwn, hwyrach y byddwch am ystyried Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol (yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol), sy’n amcangyfrif costau a buddiannau gweithredu’r Mesur arfaethedig.

 

9.     A oes unrhyw sylwadau eraill yr hoffech eu gwneud ar adrannau penodol yn y Bil? 

 

 

 

Is-ddeddfwriaeth

 

10.   Beth yw eich barn am y pwerau yn y Bil sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru lunio is-ddeddfwriaeth (hy, offerynnau statudol gan gynnwys rheoliadau a gorchmynion)?

 

11.   A oes gennych unrhyw sylwadau i’w gwneud ynghylch a yw’r pynciau y cyfeirir atynt yn yr Atodiadau mewn gwirionedd yn briodol ar gyfer eu rheoleiddio drwy is-ddeddfau?